Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Mai 2011 |
|
|||
Amser: |
08:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Peter Black Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies Jane Hutt Nick Ramsay |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Marion Stapleton, Llywodraeth Cymru Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).
2 Y Pwyllgor Busnes
2(i) Y Pwyllgor Busnes – Ffyrdd o Weithio
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ffyrdd o weithio a chytunodd ar yr hyn a ganlyn:
3 Trefn Busnes
3(i) Amserlen y Cynulliad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi amserlen dros dro ar gyfer busnes y Cynulliad yn amlinellu:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r amseroedd ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau’r Cynulliad yn cael eu cyhoeddi pan gaiff system y pwyllgorau ei chytuno.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r grwpiau plaid ar:
3(ii) Busnes yr wythnos hon
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai amser pleidleisio ddydd Mercher ddigwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
3(iii) Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor amserlen fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Cyfarfod Llawn ddechrau am 09.30 ddydd Mercher 8 Mehefin 2011 oherwydd amgylchiadau eithriadol.
3(iv) Busnes y Cynulliad am weddill y tymor
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai Dadleuon Byr gael eu cynnal rhwng 14 Mehefin a diwedd y tymor, ac y dylai balot gael ei gynnal i ddewis enwau’r Aelodau a all gyflwyno testunau i’w trafod tan ddiwedd Mehefin. Caiff dyddiadau’r Dadleuon Byr eu penderfynu gan y Pwyllgor Busnes ar 8 Mehefin.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi ystyriaeth pellach i sut y bydd amser y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio am weddill y tymor ar 8 Mehefin.
4 Pwyllgorau
4(i) Sefydlu’r pwyllgorau a’u cylch gwaith
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur yn amlinellu opsiynau cychwynnol ar gyfer sefydlu system bwyllgorau y Pedwerydd Cynulliad, i’w thrafod ymhellach â’r grwpiau plaid. Caiff y papur ei drafod eto ar 14 Mehefin.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor y dylai pwyllgorau i drafod deisebau ac is-ddeddfwriaeth gael eu sefydlu cyn gynted â phosibl, a gofynnodd am ragor o wybodaeth am gylchoedd gwaith ac aelodaeth posibl erbyn y cyfarfod ar 8 Mehefin. Bydd y system bwyllgorau yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar 14 Mehefin.
5 Deddfwriaeth
5(i) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Addysg
5(ii) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Lleoliaeth
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried dau bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Seneddol ynghylch Addysg a’r Bil Seneddol ynghylch Lleoleiddio. Oherwydd nid oes unrhyw bwyllgorau wedi cael eu sefydlu i ystyried y memoranda hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 29.4, na ddylent gael eu cyfeirio at bwyllgorau i gael eu hystyried, felly byddant yn cael eu cyflwyno i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn.
5(iii) Y trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth
Nododd y Pwyllgor Busnes bapur mewn perthynas â nifer o Offerynnau Statudol a gyflwynwyd yn nyddiau olaf y Trydydd Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ddosbarthu adroddiad arbennig ar rinweddau gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol blaenorol ymhlith Aelodau’r Cynulliad i dynnu eu sylw at yr Offerynnau Statudol hyn.
6 Busnes arall
6(i) Cwestiynau llafar y Cynulliad: y weithdrefn ar gyfer cynnal balot
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn newydd ar gyfer cyflwyno cwestiynau llafar i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau Sefydlog, lle bydd y Llywydd yn gyntaf yn cynnal balot i ddewis enwau’r Aelodau a fydd wedyn yn cael cyflwyno cwestiynau llafar. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r broses ar ddiwedd tymor yr haf.
6(ii) Cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiynwyr y Cynulliad, i’w gytuno gan y Cynulliad ddydd Mercher.
6(iii) Y cyfarfod nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal y cyfarfod nesaf am 08.30 ar 8 Mehefin.